Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

                    

                                       

                16 Chwefror 2012

Annwyl Gyfaill

 

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i gynnal ymchwiliad un-dydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. Diben yr ymchwiliad un-dydd hwn yw ystyried i ba raddau y mae'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Trydydd Cynulliad yn ei Adroddiad ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru (cyhoeddwyd Mai 2010) wedi cael eu gweithredu.

 

I lywio ei waith, mae’r Pwyllgor yn cysylltu â’r rheini a gyflwynodd tystiolaeth i’r ymcghwiliad gwreiddiol cyn y sesiwn dystiolaeth lafar sydd i'w chynnal ar 8 Mawrth 2012.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor glywed am unrhyw dystiolaeth o gynnydd mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad yn 2010, a lle mae angen cynnydd pellach. Nid oes angen i gyflwyniadau ysgrifenedig fod yn hir ac nid oes angen ailadrodd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad blaenorol.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond rydym yn gofyn bod sefydliadau sydd â Chynlluniau Iaith Gymraeg yn darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at HSCCommittee@cymru.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Fe fydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn ar 8 Mawrth 2012. O ganlyniad, dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Mercher 29 Chwefror 2012. Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rheini sydd â diddordeb yn y mater hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

Description: MarkSignature

Mark Drakeford AC / AM

Cadeirydd / Chair